Ynni i'r dyfodol.

More power for more homes.

Llyfrgell ddogfennau GDA

Drwy gydol y GDA, gwnaeth Hitachi-GE gyflwyniadau helaeth i’r rheoleiddwyr. Yn unol â'r cyfarwyddyd sy’n sail i'r asesiad, cyhoeddwyd cyflwyniadau mawr ar y wefan hon.

Isod mae dolenni at ein cyflwyniad rheoleiddiol allweddol, sy’n adlewyrchu penllanw’r broses: Yr Adroddiad Diogelwch Cyn-Adeiladu Generig (PCSR), a’r drwydded Amgylcheddol generig (GEP).

Hefyd rydym yn cyhoeddi dolenni at asesiad tafladwyedd gan Gyfarwyddiaeth Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWMD) yr NDA.

Ochr yn ochr â hyn, mae'r rheoleiddwyr yn cyhoeddi dogfennau helaeth sy’n esbonio eu hasesiad, eu casgliadau a’u penderfyniadau ac mae ganddynt safle we ar y cyd sy’n esbonio eu rôl a'u hasesiad ymhellach.

Yn unol â rheoliadau’r DU, mae gwybodaeth niwclear sensitif a gwybodaeth gyfyngedig dan ddeddfwriaeth rheoli allforio wedi’u tynnu o’r cyhoeddiadau hyn, ac felly hefyd gynnwys masnachol sensitif.

Cyflwyniadau GDA Terfynol

Deunyddiau a gyhoeddwyd, 14fed Rhagfyr 2017

Adroddiad Diogelwch Cyn Adeiladu

Trwydded Amgylcheddol Generig

Dogfennau Perthnasol Ychwanegol

Bwydlen