Ynni i'r dyfodol.

Ynni Cynaliadwy

Proses Sylwadau GDA

Un agwedd arwyddocaol ar yr Asesiad Dyluniad Generig fu “proses sylwadau GDA” ffurfiol Hitachi-GE. Drwy’r wefan hon, gwahoddodd Hitachi-GE sylwadau a chwestiynau yn ymwneud ag Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch y DU (UK ABWR) a’r gwaith o’i asesu ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU.

Ochr yn ochr â chyhoeddi cyflwyniadau rheoleiddiol pwysig, dogfennau cyhoeddus a chrynodebau lleyg, sicrhaodd y broses sylwadau y lefel uchaf posib o dryloywder o ran y gwaith o asesu ABWR y DU.

Cafodd y broses, a roddwyd ar waith yn unol â chanllawiau'r rheoleiddwyr, 83 o fewnbynnau ystyrlon rhwng 6ed Ionawr 2014 a 15fed Awst 2017. Aeth Hitachi-GE ati i adolygu ac ymdrin â phob un o’r rhain.

Er bod y broses sylwadau wedi dod i ben erbyn hyn, bwriedir i'r wefan hon fod yn weithredol am 10 mlynedd o ddyddiad cwblhau'r GDA, gan fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth ac yn gofnod cyhoeddus o sylwadau'r GDA.

Mae Hitachi-GE yn ddiolchgar iawn i’r cyhoedd am gyfrannu’n sylweddol at y broses, ac mae’n diolch i bawb a gyflwynodd gwestiynau a sylwadau. Yn ychwanegol, mae crynodeb o'r sylwadau wedi cael ei gynhyrchu sydd ar gael yma.

Bwydlen