Ynni i'r dyfodol.

More power for more homes.

Cyflwyniad a chynnydd GDA

Cwblhawyd Asesiad Dyluniad Generig yn llwyddiannus gan Hitachi-GE yn unol â’i amserlen wreiddiol a chyhoeddwyd Cadarnhad Derbyn Dyluniad (DAC) gan ONR, a Datganiad o Dderbynioldeb Dyluniad (SoDA) gan AA a CNC ar 14eg Rhagfyr 2017.  

Yr Asesiad Dyluniad Generig (GDA) yw’r broses a ddefnyddir gan reoleiddwyr niwclear y DU i asesu addasrwydd posib dyluniad adweithydd niwclear i’w ddatblygu mewn lleoliad amhenodol yn y DU, gan ystyried diogelwch ac effeithiau amgylcheddol.

Nid yw’n asesiad o egwyddorion ynni niwclear, ond o ddyluniad offer ABWR y DU ei hun. Mae pasio GDA yn gam pwysig yn y broses tuag at ddatblygu gorsaf, ond nid yw ynddo’i hun yn rhoi unrhyw ‘ganiatâd’ i ddatblygu. Erys yr angen am Drwydded Safle Niwclear a thrwyddedau amgylcheddol. Er y gallai’r GDA fod yn sail i elfennau o’r asesiadau hyn, nid yw’n cymryd eu lle.

Rhaid i ddatblygwyr gorsafoedd pŵer fynd drwy'r broses gynllunio lawn hefyd er mwyn cael Gorchymyn Cydsyniad Datblygu.

Mae’r rheoleiddwyr yn disgrifio GDA fel yr isod:

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi datblygu’r Asesiad Dyluniad Generig neu’r broses GDA mewn ymateb i gais gan y Llywodraeth yn dilyn ei Hadolygiad Ynni yn 2006.

Yn eu cyfraniadau at Adolygiad Ynni’r Llywodraeth, nododd ONR ac Asiantaeth yr Amgylchedd gynigion i asesu dyluniad adweithyddion niwclear newydd, cyn unrhyw gynigion i adeiladu gorsaf pŵer niwclear ar unrhyw safle penodol. Rhoddwyd yr enw Asesiad Dyluniad Generig (GDA) ar y broses hon.

Mae’r rheoleiddwyr yn cynnal eu hasesiadau gan ddefnyddio dull cam wrth gam, gyda’r asesiadau’n mynd yn gynyddol fanylach fesul cam. Ar derfyn pob cam cyhoeddir adroddiadau, sy’n darparu diweddariad ar yr asesiad technegol manwl a wnaed gan yr aseswyr niwclear. Bydd yr adroddiadau’n tynnu sylw at unrhyw bryderon neu faterion technegol a godwyd yn ystod yr asesiad. Bydd ONR yn cynnal ei asesiadau mewn pedwar cam, tra bo proses Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnwys asesiad cychwynnol a manwl a ddilynir gan ymgynghoriad. Ar derfyn proses y GDA, bydd y rheoleiddwyr yn penderfynu a yw’r dyluniadau arfaethedig yn dderbyniol i’w hadeiladu yn y DU.

Bwydlen