Ynni i'r dyfodol.

More power for more homes.

Polisi Hygyrchedd ABWR

Polisi Hygyrchedd Gwefan Grŵp Hitachi

Sefydlwyd y polisi hygyrchedd canlynol ar gyfer gwefannau Grŵp Hitachi, yn unol â'r "Canllawiau ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau - Offer gwybodaeth a chyfathrebu, meddalwedd a gwasanaethau - Rhan 3: Cynnwys Gwe" (JIS X 8341-3:2010) fel rhan o Safonau Diwydiannol Siapan, y canllawiau'n gysylltiedig â WCAG 2.0 (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.0) o W3C (Consortiwm y We Fyd Eang).

  • Lefel Hygyrchedd a Maint Cydymffurfio: Rydym yn ceisio cyrraedd cydymffurfiad Lefel A ac AA yn ôl safonau JIS X 8341-3:2010. (Mae lefel A ac AA yn JIS X 8341-3:2010 yn cyfateb i lefel A ac AA yn WCAG 2.0)
    • Mae cysyniad cydymffurfio'n cynrychioli cynnwys gwe a ddatblygir gyda gofynion canlynol JIS X 8341-3:2010, ac sydd hefyd yn cwrdd â'r holl feini prawf hygyrchedd o ran targedu lefel A ac AA.
  • Cwmpas Cydymffurfio: Nid cydymffurfiaeth cyffredinol gwefannau cyfan yw ein prif nod ar hyn o bryd. Yn hytrach, fel nod cychwynnol, rydym yn ceisio cydymffurfiaeth ar gyfer tudalennau unigol, ac yna i gyflawni cydymffurfiaeth ar gyfer cynifer o dudalennau â phosibl (gyda lleiafswm o oddeutu 50 tudalen).
    • Wedi i ni gwrdd â'n hamcanion cychwynnol, caiff y cwmpas ei ehangu i gynnwys tudalennau newydd sy'n cael eu datblygu, wrth i ni raddol gynyddu nier y tudalennau sy'n cydymffurfio ar safleoedd Hitachi.

Gyda'r polisi hwn, rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella hygyrchedd gwefannau Grŵp Hitachi, nid yn unig ar gyfer ymwelwyr anabl neu oedrannus ond pob ymwelydd â'r wefan.

Bwydlen