Ynni i'r dyfodol.

Ynni glân, diogel

Cyflwyniad i ABWR y DU

Mewn sawl ffordd, mae gorsafoedd pŵer niwclear yn debyg i fathau eraill o gynhyrchu pŵer: mae tyrbin yn cael ei wneud i droi a thrwy wneud hynny mae’n cynhyrchu trydan. Er bod rhai gwahaniaethau yn y ffordd y gwneir i’r tyrbin droi, mae hyn yn ei hanfod yr un fath ar gyfer glo, nwy, gwynt, llanw a llawer math arall o gynhyrchu ynni.

Mae’r mathau hynny a elwir yn gynhyrchu thermol – yn bennaf niwclear, glo ac olew a pheth nwy – yn cyflawni hyn drwy gynhesu dŵr i gynhyrchu stêm, sydd wedyn yn cael ei yrru drwy’r tyrbin gan achosi iddo droi. Mewn gorsaf pŵer niwclear, defnyddir adwaith niwclear yn syml i gynhyrchu’r gwres, sy’n berwi’r dŵr i gynhyrchu stêm.

Ceir mathau amrywiol o adweithyddion niwclear ledled y byd, gyda mwy na 400 o adweithyddion yn weithredol yn fyd-eang. Un o’r mathau mwyaf cyffredin yw’r Adweithydd Dŵr Berwedig (BWR), a’r dyluniad diweddaraf sy’n weithredol yw’r Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch (ABWR).

Gelwir BWR yn adweithyddion cylch uniongyrchol, sy’n golygu eu bod yn gweithio drwy anfon stêm a gynhyrchwyd o fewn yr adweithydd yn uniongyrchol i’r tyrbin. Mae’r tabl isod yn dangos y broses hon.


ABWR y DU - Ffeithiau Allweddol

Mae’r ABWR yn adweithydd cenhedlaeth III+ (Gen. III+), y genhedlaeth weithredol fwyaf modern o orsafoedd pŵer niwclear. Yr ABWR yw'r dechnoleg Gen. III+ fwyaf sefydledig sy’n gweithredu yn unrhyw le yn y byd.

Mae’r ABWR yn weithredol ar tri safle yn Japan: dau yn Kashiwazaki-Kariwa; un yn Hamaoka ac un yn Shika. Mae safleoedd eraill wrthi’n cael eu hadeiladu  yn Shimane ac Ohma yn Japan.

Ar bŵer llawn, mae un adweithydd ABWR yn cynhyrchu oddeutu 1359MWe o drydan – digon ar gyfer dros ddwy filiwn o gartrefi.

Bwydlen