Ynni i'r dyfodol.

Ynni Cynaliadwy

Gwefan Adweithydd Dŵr Berw Uwch (ABWR) y DU

Mae ABWR y DU – Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch y DU – yn ddyluniad adweithydd niwclear sydd wedi cael ei gynnig ar gyfer ei adeiladu yn y DU. Mae ABWR y DU yn cael ei ddatblygu a’i gynnig yn y DU gan Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) - gan weithio mewn cydweithrediad â Phŵer Niwclear Horizon (is-gwmni sy’n eiddo 100% i Hitachi).

Er gwaethaf penderfyniad Hitachi ym mis Ionawr 2019 i ohirio ein rhaglen datblygu niwclear yn y DU, mae cwblhau proses yr Asesiad Dylunio Cyffredinol (GDA) yn parhau’n gam arwyddocaol ymlaen er mwyn galluogi defnyddio technoleg ABWR y DU yma yn y DU - ac, o’r herwydd, mae’r manylion ar y tudalennau hyn yn parhau’n berthnasol.

Am wybodaeth am waith Pŵer Niwclear Horizon ac ymwneud cyffredinol Hitachi â’r sector niwclear yn y DU, ewch i www.horizonnuclearpower.com

Mae ynni niwclear yn cael ei reoleiddio’n llym i sicrhau y caiff y lefelau uchaf o ddiogelwch a gwarchodaeth amgylcheddol eu cynnal bob amser. Ar gyfer adeiladu gorsaf niwclear newydd, cam cyntaf hyn yw asesiad manwl o ddyluniad yr adweithydd gan reoleiddwyr y DU, a elwir yn Asesiad Dyluniad Generig (GDA).

Rhwng mis Ebrill 2013 a mis Rhagfyr 2017, aseswyd ABWR y DU o dan y GDA gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR), Asiantaeth yr Amgylchedd (AA) Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Cwblhawyd Asesiad Dyluniad Generig yn llwyddiannus gan Hitachi-GE yn unol â’i amserlen wreiddiol a chyhoeddwyd Cadarnhad Derbyn Dyluniad (DAC) gan ONR, a Datganiad o Dderbynioldeb Dyluniad (SoDA) gan AA a CNC ar 14eg Rhagfyr 2017 .

Datblygwyd y wefan hon i gefnogi ymgysylltu cyhoeddus yn y broses GDA. Drwy gyfrwng y safle hwn, cyhoeddodd Hitachi-GE ein cyflwyniadau rheoleiddiol, yn ogystal â chrynodebau lleyg o ddyluniad yr adweithydd.

Mae’r crynodebau hyn - yn ogystal â chyflwyniadau rheoleiddiol terfynol y broses - yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd.

Agwedd allweddol ar y GDA yw'r broses sylwadau, gan alluogi aelodau o’r cyhoedd, sefydliadau a chymdeithasau i wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y dechnoleg ac am ein cyflwyniadau ni i’r rheoleiddwyr. Gweithredodd y wefan y broses honno rhwng mis Ionawr 2014 a mis Awst 2017, gan dderbyn 83 o sylwadau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae crynodeb o'r sylwadau ar gael yma.

Fideo ABWR Hitachi. Fideo yn seiliedig ar ddull gweithredu generig - bydd datblygiadau ar safleoedd unigol yn destun dyluniadau penodol i'r safle.
Bwydlen